Learning Bees logo LEARNING
BEES
← learningbees.co.uk
Am Ddim · Free Blynyddoedd 5–8 · Years 5–8

Y FannodArticle - a free taster activity

💻 Teipiwch yn syth i'r blychau glas isod · Type straight into the blue boxes below

Y Fannod (Article)

Rydyn ni'n rhoi'r fannod o flaen enw. Mae tair ffordd o ddefnyddio'r fannod yn y Gymraeg: y   yr   'r

y
Ar ôl cytsain, o flaen cytsain arall. e.e y teledu, y ci
yr
Ar ôl cytsain, o flaen llafariad neu 'h'. e.e yr afal, yr helynt
'r
Ar ôl llafariad. e.e dyma'r ferch, mae'r ysgol

Dysgwch yr eithriadau - y wal, y wennol

Ymarfer 1)
Teipiwch y, yr neu 'r yn y brawddegau hyn(Type y, yr or 'r into these sentences).Rhif 1 wedi'i wneud yn barod i chi fel enghraifft · Number 1 has been done for you as an example.
1) Casgla ___ papurau wnei di!
2) Mae tymor ___ haf yn braf.
3) Doeddwn i ddim yn deall ___ stori o gwbl.
4) Does dim rhaid i ti dalu am ___ llyfrau.
5) Mae caffi da gyferbyn â ___ ysgol.
6) Wnest ti fwynhau ___ ffilm?
7) Maen nhw wedi anfon Elin Puw at ___ heddlu.
8) Bydd ___ arholiad yn hawdd.
Ymarfer 2)
Cywirwch y brawddegau neu rowch y, yr neu 'r ynddynt os oes angen(Correct the sentences or add y, yr or 'r if needed).Rhif 1 wedi'i wneud yn barod i chi fel enghraifft · Number 1 has been done for you as an example.
1) Mae'n well gen i'r gwanwyn na y gaeaf.
2) Mae y bechgyn yn gweithio'n dda.
3) Aeth y merched i'w gwely ar ôl dod o y ysgol.
4) Llosgodd y bachgen yn y haul.
5) Roedd hi'n hapus gyda yr canlyniad.
6) Darllenodd yr athro yr stori i'r dosbarth.
7) Mae y cyfrifiadur wedi torri.
8) Bwytodd y bachgen ddarn o yr oren.
9) Mae'n well ganddo y ferch na'r bachgen.
10) Melyn yw lliw y haul.

Hoffi hwn? · Enjoyed this style?

Mae 26 tudalen arall fel hyn yn y pecyn Gwobr Efydd llawn - ar gael yn ddigidol neu'n argraffedig, am £5.
There are 26 more pages like this in the full Bronze Award pack - digital or print, from £5.

Gweld y pecyn llawn · See the full pack