Learning Bees logo LEARNING
BEES

Frequently asked questions

Cwestiynau cyffredin

How do the live lessons work?Sut mae'r gwersi byw yn gweithio?

Once a month, your child joins a small-group live lesson online with a qualified teacher. Lessons run on Mondays or Wednesdays at 5pm, and the groups are beginner, intermediate or advanced so everyone learns at the right level. It's a chance for your child to reflect on what they've learned and ask any questions.

Unwaith y mis, mae eich plentyn yn ymuno â gwers fyw ar-lein mewn grŵp bach gydag athro cymwysedig. Cynhelir y gwersi ar ddydd Llun neu ddydd Mercher am 5yh, ac mae'r grwpiau'n sylfaenol, canolradd neu uwch fel bod pawb yn dysgu ar y lefel gywir. Mae'n gyfle i'ch plentyn fyfyrio ar yr hyn y mae wedi'i ddysgu a gofyn unrhyw gwestiynau.

What if my child misses a live lesson?Beth os bydd fy mhlentyn yn colli gwers fyw?

Lessons aren't recorded, so the next step is to send a message to your child's teacher, who will help them catch up.

Nid yw'r gwersi'n cael eu recordio, felly'r cam nesaf yw anfon neges at athro eich plentyn, a fydd yn ei helpu i ddal i fyny.

What happens at the end of each level?Beth sy'n digwydd ar ddiwedd pob lefel?

At the end of each level, your child's teacher checks how they've got on against their targets. If they need more help, the teacher gives them extra work, different to what's in the workbook, until they're ready to move on.

Ar ddiwedd pob lefel, mae athro eich plentyn yn gwirio sut mae wedi dod ymlaen yn erbyn ei dargedau. Os oes angen mwy o help arno, mae'r athro yn rhoi gwaith ychwanegol iddo, sy'n wahanol i'r hyn sydd yn y pecyn gwaith, nes ei fod yn barod i symud ymlaen.

Do I need to join the live lessons with my child?A oes angen i mi ymuno â'r gwersi byw gyda fy mhlentyn?

Your child joins the lessons on their own, because we want them to become an independent learner. You don't need to be there, but your encouragement and support at home make a big difference.

Mae eich plentyn yn ymuno â'r gwersi ar ei ben ei hun, oherwydd rydym eisiau iddo ddod yn ddysgwr annibynnol. Nid oes angen i chi fod yno, ond mae eich anogaeth a'ch cefnogaeth gartref yn gwneud gwahaniaeth mawr.

What's included in a subscription?Beth sydd wedi'i gynnwys mewn tanysgrifiad?

One workbook at a time at your child's own pace, a teacher to help them reach their targets at the end of each level, a monthly live lesson in a small group, and extra teacher support and resources on demand.

Un pecyn gwaith ar y tro ar gyflymder eich plentyn ei hun, athro i helpu eich plentyn i gyrraedd ei dargedau ar ddiwedd pob lefel, gwers fyw fisol mewn grŵp bach, a chymorth ac adnoddau ychwanegol gan athro pan fyddwch eu hangen.

Should I choose monthly or yearly?A ddylwn i ddewis tanysgrifiad misol neu flynyddol?

Yearly is £135 for the whole academic year, October to July - that's 10% off. Monthly is £15 a month.

Mae'r tanysgrifiad blynyddol yn £135 am y flwyddyn academaidd gyfan, o fis Hydref i fis Gorffennaf - sef 10% i ffwrdd. Mae'r tanysgrifiad misol yn £15 y mis.

Which level should my child start at?Pa lefel ddylai fy mhlentyn ddechrau arni?

Choose Bronze (beginner), Silver (intermediate) or Gold (advanced). Not sure? Take our short test and we'll tell you where to start.

Dewiswch Efydd (sylfaenol), Arian (canolradd) neu Aur (uwch). Ddim yn siŵr? Rhowch gynnig ar ein prawf byr a byddwn yn dweud wrthych ble i ddechrau.

Do I need to speak Welsh to help?A oes angen i mi siarad Cymraeg i helpu?

No. Your child works independently and everything is explained in English and Welsh, so you simply support and encourage.

Nac oes. Mae eich plentyn yn gweithio'n annibynnol ac mae popeth wedi'i egluro yn Saesneg a Chymraeg, felly dim ond cefnogi ac annog sydd angen i chi ei wneud.

How do digital and printed workbooks work?Sut mae pecynnau gwaith digidol a phrintiedig yn gweithio?

A digital workbook comes as a PDF, an interactive version and a PDF answer book, and you'll receive it by email. Printed workbooks are posted to the address you give when you order, and include a PDF copy of the answer book. Digital is £5. Printed is £15 plus £3.50 postage.

Daw pecyn gwaith digidol fel PDF, fersiwn ryngweithiol a llyfr atebion PDF, a byddwch yn ei dderbyn dros e-bost. Caiff pecynnau gwaith printiedig eu postio i'r cyfeiriad rydych yn ei roi wrth archebu, ac maent yn cynnwys copi PDF o'r llyfr atebion. Mae digidol yn £5. Mae printiedig yn £15 ynghyd â £3.50 o gostau postio.

How do I pay?Sut ydw i'n talu?

Subscriptions are paid securely through GoCardless. For workbooks, send your order and we'll email you a payment link. We never see or store your bank or card details.

Telir am danysgrifiadau'n ddiogel drwy GoCardless. Ar gyfer pecynnau gwaith, anfonwch eich archeb a byddwn yn anfon dolen dalu atoch dros e-bost. Nid ydym byth yn gweld nac yn cadw manylion eich banc na'ch cerdyn.

What age is Learning Bees for?I ba oedran mae Learning Bees?

Learning Bees is for children aged 10-14 (Years 5-9).

Mae Learning Bees ar gyfer plant 10-14 oed (Blynyddoedd 5-9).

When do lessons start?Pryd mae'r gwersi'n dechrau?

Welsh lessons are open now - sign up to get started. English and Maths lessons start soon: join the waiting list and we'll let you know as soon as spaces open.

Mae gwersi Cymraeg ar agor nawr - cofrestrwch i ddechrau arni. Mae gwersi Saesneg a Mathemateg yn dechrau yn fuan: ymunwch â'r rhestr aros a byddwn yn rhoi gwybod i chi cyn gynted ag y bydd lleoedd ar gael.

Is my child safe?A yw fy mhlentyn yn ddiogel?

Lessons are taught by qualified teachers who all have a DBS check, in small groups, and they aren't recorded. Only the teachers who teach your child can see their work, and it is never shared with other pupils. Our privacy policy has the full details.

Caiff y gwersi eu haddysgu gan athrawon cymwysedig sydd i gyd â gwiriad DBS, mewn grwpiau bach, ac nid ydynt yn cael eu recordio. Dim ond yr athrawon sy'n addysgu eich plentyn sy'n gweld ei waith, ac ni chaiff byth ei rannu â disgyblion eraill. Mae ein polisi preifatrwydd yn rhoi'r manylion llawn.

Can't find your answer?Methu dod o hyd i'ch ateb? Email CraigE-bostiwch Craig

Questions? I'm happy to help.

Cwestiynau? Rwy'n hapus i helpu.

Have a question before you start? Drop me an email or send me a message on Instagram.

Cwestiwn cyn i chi ddechrau? Anfonwch e-bost ataf neu neges ar Instagram.